WWF UK Blog  

3 ffordd mae Cymru yn taclo llygredd plastig

 

Mae pawb yn siarad am blastig y dyddiau hyn. Er bod ni mor lwcus bod arfordir anhygoel ar ein stepen drws, nid yw Cymru’n gallu dianc y gwastraff sy’n llifo mewn â’r llanw.

Gwellt yfed, poteli, cwpanau coffi, weips, brwshys dannedd…mae plastig untro yn symbol amlwg o’n cymdeithas ‘taflu-i-ffwrdd’ a’r niwed mae’n gwneud i’n byd.

Os nad ydyn ni’n datrys hyn, bydd mwy o blastig yn y môr na physgod erbyn 2050. Ac mae’r plastig yma yn lladd anifeiliaid megis morfilod, pysgod a chrwbanod môr.

Turtle eating plastic bag ©Paulo Oliveira / Alamy Stock PhotoCrwban môr yn bwyta bag plastig © Paulo Oliveira / Alamy Stock Photo

Rydyn ni eisiau gwaharddiad ar blastigion untro all gael eu hosgoi erbyn 2025 yn y DU. Dylai Llywodraeth Cymru fod ar flaen y gad, yn cyflawni newid radical trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae rhesymau i fod yn optimistaidd. Mae cwmniau, cymunedau ac unigolion yn gwneud gwaith da i leihau ein defnydd o blastig, a chlirio’r gwastraff o’n moroedd. Dyma ychydig o enghraifftiau…

Aberporth Di-Blastig

Os rydych chi’n ymweld â’r pentref hardd hwn yng Ngheredigion, efallai na fydd hi’n edrych bod ‘na broblem gwastraff plastig. Ond edrychwch yn agosach ac fe fyddwch chi’n dod o hyd i ddarnau bach o blastig ym mhobman, sy’n cael eu golchi mewn â’r llanw.

Gail Tudor with steering group members and local residents launching the Plastic Free Aberporth campaign © Plastic Free AberporthGail Tudor gydag aelodau grŵp llywio a thrigolion lleol, yn lansio ymgyrch Aberporth Di-Blastig. © Plastic Free Aberporth

Ond mae’r gymuned wrthi’n arwain y ffordd a bellach hwn yw ‘Pentref Di-Blastig’ cyntaf Cymru. Dechreuwyd y prosiect pan aeth Gail Tudor ar daith o gwmpas Prydain er mwyn chwilio am wastraff plastig. Ar ôl gweld maint y broblem, fe ddaeth hi adre a dechreuodd Aberporth Di-Blastig gyda phobl eraill o’r pentref. Roedd trigolion yn casglu sbwriel o’r traethau yn barod ond roedd Gail eisiau mynd ymhellach. Fel rhan o’r cynllun ‘Plastic Free Coastlines‘ gan Surfers Against Sewage, dechreuon nhw newid arferion y pentref. Gofynnon nhw i fusnesau lleol i gael gwared o 3 eitem, neu yn fwy, o blastigion untro.  Er enghraifft, mae siop y pentref wedi mynd yn ôl i werthu llaeth mewn poteli gwydr, ac mae’r tafarn wedi rhoi’r gorau i roi allan gwellt yfed plastig.

Y nod nawr yw addysgu twristiaid a helpu pentrefi a threfi eraill i ddilyn eu hesiampl.

Mae’r prosiect Gwyrddio Penarth wedi’i ysbrydoli gan Aberporth i wneud rhywbeth tebyg yn barod!

Natural Weigh, Crughywel

Onid fyddai hi’n grêt i siopa heb greu sbwriel plastig?

Mae gan drigolion Crughywel ym Mhowys ffordd newydd i leihau’r gwastraff maen nhw’n ei greu, yn sgil agoriad siop Natural Weigh yn gynharach eleni.

Mae’r perchnogion Chloe a Robin yn angerddol dros natur ac yn credu y dylai hi fod yn hawdd i ni siopa mewn ffordd gynaliadwy.

Natural Weigh owners Robin and Chloe © Natural WeighPerchnogion Natural Weigh Robin a Chloe © Natural Weigh

Mae’r siop yn gwerthu bwyd organig sy’n rhydd yn hytrach na mewn pecynnau. Gall cwsmeriaid llenwi eu bocsys eu hunain yn hytrach na chreu mwy o wastraff plastig. Yn ystod Awr Ddaear eleni, fe wnaeth y cwmni addewid i fynd ymhellach, trwy daclo gwastraff plastig eu cyflenwyr. Hyd yn hyn maen nhw wedi newid y cwmni sy’n gwerthu nwyddau glanhau iddyn nhw, sy’n meddwl bod modd dychwelyd ac ail-lenwi’r poteli 15 litr a werthir iddyn nhw. Maen nhw hefyd wedi lleihau’r gwastraff o’i gyflenwyr bwyd.

Nid ym Mhowys yn unig mae siopau yn cynnig cyfleoedd fel hyn. Gall pobl yn y Brifddinas edrych ymlaen at agoriad y siop newydd Ripple, sydd eisiau helpu gwneud Caerdydd yn ‘ddinas werdd’.

Siân Sykes, Ynys Môn Di-Blastig

Mae Sian Sykes o Ynys Môn newydd deithio o gwmpas Cymru ar badlfwrdd sefyll. Yr hyn sy’n gwneud y daith yma yn fwy anhygoel fyth yw’r ffaith bod Sian wedi gwneud hyn heb ddefnyddio unrhyw blastig untro, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r broblem.

Sian Sykes on her plastic free circumnavigation of Wales expedition © Chris Davies, Eastwood MediaSian Sykes ar ei thaith di-blastig o gwmpas Cymru © Chris Davies, Eastwood Media

Aeth hi â phast dannedd mewn jariau gwydr, eli haul mewn tin, bariau siampŵ a brwsh dannedd bambŵ. Os mae hi’n gallu gwneud hyn ar antur dau fis, meddai, gall pawb ei gwneud hi adre.

Mae hi’n credu y dylai pawb frwydro dros arfordiroedd di-blastig, innau trwy stopio defnyddio plastigion untro neu gasglu sbwriel.

Dechreuodd Sian Ynys Môn Di-Blastig yn y gobaith mai’r ynys fydd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gael statws ‘di-blastig’, nod a chefnogir gan y cyngor.

Sut gallwch chi helpu

Gallwn ni gyd gwneud rhywbeth i helpu. Ymunwch â’n brwydr yn erbyn llygredd plastig heddiw!

This post has been tagged:

Related posts


Comments