WWF UK Blog  

Rhaid i’r Llywodraeth a busnesau gydweithio i atal dirywiad amgylcheddol

 

Tynnodd yr Adroddiad Planed Fyw, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y sefydliad cadwraethol byd-eang WWF, sylw at y ffordd frawychus mae rhywogaethau ledled y byd yn prinhau.

WWF's Living Planet Report found that we risk a 67% decline in global populations of vertebrate species by 2020 if we don't act now. © Martin Harvey / WWFCanfu Adroddiad Planed Fyw WWF ein bod yn wynebu perygl o ostyngiad o 67% mewn rhywogaethau fetebraidd erbyn 2020 oni gweithredwn yn awr. © Martin Harvey / WWF

Mae anifeiliaid eiconig fel eliffantod Affrica, eirth gwyn a gorilaod mynydd i gyd mewn perygl. Felly hefyd rhai rydyn ni’n fwy cyfarwydd â nhw, fel eogiaid, ieir bach yr haf a draenogod.

Canfu’r adroddiad, oni fyddwn ni’n gweithredu ar fyrder i newid hyn, y gallai rhywogaethau fertebratau fod 67% yn llai erbyn 2020—dim ond pedair blynedd i ffwrdd.

Nid mewn gwlad bell i ffwrdd yn unig mae hyn yn digwydd. Mae’n digwydd yma yng Nghymru hefyd. Canfu adroddiad arall a gyhoeddwyd yn ddiweddar, Sefyllfa Byd Natur, fod traean o’r rhywogaethau blaenoriaethol wedi prinhau yn ystod y degawd diwethaf.

Y peth mwyaf arswydus yw mai gweithgarwch pobl sy’n achosi hyn. Rhybuddiodd adroddiad WWF mai’r bygythiadau mwyaf difrifol yw pethau fel gorbysgota, amaethyddiaeth anghynaliadwy, llygredd a’r newid yn yr hinsawdd.

Y gwir yw, mae ein defnydd o adnoddau naturiol wedi cynyddu mor ddirfawr nes ein bod yn peryglu’r systemau amgylcheddol allweddol y mae pobl, yn ogystal â bywyd gwyllt, yn dibynnu arnyn nhw.

Felly beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? A sut allwn ni atal y dirywiad hwn ym myd natur fel y gall ein hwyrion fwynhau amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol fel yr ydym ni wedi gwneud?

Y newyddion da yw bod y Cynulliad diwethaf wedi rhagweld y broblem hon pan basiodd Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd.

Gyda’i gilydd maen nhw’n creu system gyfreithiol gadarn i warchod ein hamgylchedd naturiol i’n hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.

Yn awr mae angen rhoi’r Deddfau hyn ar waith. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth yn awr ystyried yr effaith y mae ei holl benderfyniadau a strategaethau’n ei chael ar y defnydd o adnoddau naturiol yng Nghymru ac o amgylch y byd.

Ac yn wir, mae’r Adroddiad Planed Fyw yn awgrymu inni wynebu’r her honno trwy weddnewid y ffordd mae ein heconomi’n gweithio.

Er mwyn cyflawni hynny, mae’n rhaid i strategaethau datblygu a modelau economaidd y Llywodraeth a busnesau fel ei gilydd gydnabod pa mor hollbwysig yw ein hadnoddau naturiol.

Nid yn unig maen nhw’n darparu inni’r bwyd, ynni a deunyddiau sydd mor hollbwysig i dwf economaidd, maen nhw hefyd yn hanfodol i atal llifogydd, peillio cnydau ac aer a dŵr glân.

The Welsh Government has already identified developing Wales' renewable energy sector as a priority. Now it needs to deliver. © Global Warming Images / WWFMae Llywodraeth Cymru eisoes wedi adnabod datblygu sector ynnu adnewyddadwy Cymru fel blaenoriaeth. Nawr mae angen iddi gyflawni. © Global Warming Images / WWF

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu yn ddiweddar. Ynddi, nodwyd bod datblygu’r sector ynni adnewyddadwy a’r ‘economi werdd’ yn flaenoriaethau.

Hefyd yn ddiweddar cyhoeddodd ei hamcanion llesiant, sy’n adeiladu ar y Rhaglen Lywodraethu trwy addo meithrin datblygiad economaidd cynaliadwy ac economi carbon isel, fodern.

Bydd maint a chyflymder y rhaglenni hyn yn hanfodol wrth benderfynu a fydd y newid mor drawsnewidiol ag y mae angen iddo fod er mwyn mynd i’r afael â’r problemau mae’r Adroddiad Planed Fyw yn tynnu sylw atynt.

Er enghraifft, yn ystod y Cynulliad blaenorol, cyhoeddodd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y ddogfen ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’.

Awgrymodd y dylai Cymru anelu at ddiwallu ei holl anghenion am ynni o ffynonellau adnewyddadwy ac, yng nghyd-destun yr angen i leihau allyriadau carbon o leiaf 80% erbyn 2050, gosododd ddyddiad targed i gyflawni hyn.

Bydd fy nghydweithwyr a finnau ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn edrych ar y mater hwn dros dymor nesaf y Cynulliad.

Ni all yr economi werdd fod, na chael ei hystyried, ar wahân i’r strategaeth datblygu economaidd. Rhaid i garbon isel a defnyddio adnoddau’n effeithlon fod yn hanfod economi Cymru.

Mae caffael yn un o’r cyfryngau allweddol i dwf economaidd cynaliadwy. Dyna pam mae ar Gymru angen Polisi Caffael Cenedlaethol sy’n cefnogi economïau lleol ac yn helpu i gynnal ein hamgylchedd naturiol.

Felly rwy’n croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn ddiweddar gan Wasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru i weini pysgod o ffynonellau cynaliadwy yn unig mewn lleoliadau yn y sector cyhoeddus.

Rwy’n gobeithio y bydd yn adeiladu ar yr ymrwymiad hwnnw trwy addo defnyddio pren wedi’i ardystio gan yr FSC yn unig yn y sector cyhoeddus.

Only using FSC-certified timber is a great way of making sure that the wood we use is sustainably-sourced. © Jürgen Freund / WWFMae dim ond defnyddio pren wedi’i ardystio gan yr FSC yn ffordd wych o sicrhau fod y pren rydym yn ei ddefnyddio yn gynaliadwy. © Jürgen Freund / WWF

Mae’n hanfodol i’r sector cyhoeddus arwain trwy esiampl, gan gymell byd busnes a diwydiant i weithredu mewn ffordd sy’n parchu’r amgylchedd naturiol.

Yn ddiamau mae hyn yn her sylweddol. Dyna pam na allwn ni fforddio aros. A ninnau’n wynebu’r tebygrwydd o golli 67% o rywogaethau, rhaid inni gofio mai dim ond pedair blynedd i ffwrdd mae 2020.

Rhaid i’r llywodraeth a gwleidyddion weithio gyda busnesau a sefydliadau amgylcheddol i gynllunio ar gyfer economi carbon isel sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol ill dau wedi cydnabod pa mor ddifrifol yw’r broblem. Yn awr mae angen inni weld ymrwymiad llwyr oddi wrthyn nhw, ac oddi wrth fyd busnes, i sicrhau newid.

Yfory, bydd WWF Cymru yn croesawu Aelodau Cynulliad a lleisiau o fyd busnes mewn digwyddiad yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd i drafod ymateb Cymru i’r Adroddiad Planed Fyw ac adeiladu economi gynaliadwy i Gymru. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y digwyddiad.

Pleidleisiwch i’n blog ni i ennill categori ‘Green & Eco’ yng Ngwobrwyon Blogiau’r DU 2017. Diolch.

Related posts


Comments